Croeso i'r Evolution MegaLab!
Oeddech chi'n gwybod, diolch i falwen fach gyffredin a allwch ddod o hyd iddo yn eich gardd gefn, yn y parc neu o dan wrych, gallwch weld esblygiad yn eich gardd gefn eich hunain?
Iawn, mae esblygiad yn broses araf deg iawn. Dechreuodd bywyd ar y ddaear tri biliwn a hanner o flynyddoedd yn nol! Y newidiadau bach dros amser maith sydd wedi'n cael ble rydym nawr. Gallwch weld rhai o’r camau bach hyn wrth ymuno a’r Evolution MegaLab.
Malwod haenog
Efallai ei fod yn ymddangos bod malwod wedi gwisgo i fod yn smart, ond mewn gwirionedd maent wedi gwisgo i oroesi. Mae malwod haenog yn hoff fwyd i’r fronfraith ac mae’r amryw o liwiau a phatrymau ar eu cregyn yn eu cuddio yn erbyn gwahanol gefndiroedd. Ond, mewn rhai manau ceir llai o fronfreithod nag oedd yn y gorffennol.
Cynorthwywch ni i ddarganfod
- Yw lliwiau a haenau cregyn wedi newid ble ceir llai o fronfreithod?
Mae lliw cregyn hefyd yn effeithio ar ba mor sensitif yw malwen i’r tymheredd
- A yw lliwiau cregyn wedi newid gyda’r cynhesu yn yr hinsawdd?
Dysgwch fwy!
- Darganfyddwch mwy yn nhudalen Y Gwyddoniaeth.
- Ychwanegwch eich sylwadau pan fyddwch Cofrestru gyda ni, yn rhad ac am ddim.
- Darganfyddwch sut i gymryd rhan yn y tudalen Cyfarwyddiadau.
- Chwiliwch drwy gofnodion Presenol a Hanesyddol i edrych ar y data sydd gennym eisoes.
- lawr lwytho cofnodion er mwyn derbyn copi o'r samplau presennol.















